Atomfa Fukushima Dai-ichi cyn y daeargryn (KEI CCA 3.0)
Mae arbenigwyr wedi dod o hyd i’r lefel uchaf eto o ïodin eto mewn dŵr mor y tu allan i atomfa niwclear Fukushima Dai-ichi.

Maen nhw’n dweud bod y lefel fwy na 3,000 o weithiau’n fwy nag arfer ond yn pwysleisio y bydd yn colli ei rym yn gyflym.

Mae’r Asiantaeth Ddiogelwch Niwclear yn dweud nad yw’r lefelau o ïodin 131 tua 300 llath i’r de o atomfa Fukushima Dai-ichi yn berygl i iechyd pobol – ond ei fod yn achos “pryder”.

“Fe wnawn ni ddarganfod pam ac yna wneud ein gorau i’w atal rhag codi ymhellach,” meddai Hidehiko Nishiyama o’r Asiantaeth Diogelwch Niwclear.

Y cefndir

Eisoes, mae pobl sy’n byw o fewn 12 milltir i’r safle wedi’u symud ac mae’r Llywodraeth wedi galw ar bobol sy’n byw hyd at 19 milltir i ffwrdd i adael gan fod ymbelydredd wedi’i gael mewn llefrith a dŵr.

Yr wythnos ddiwethaf, roedd dŵr tap yn Tokyo, 140 milltir i’r de, yn cynnwys lefelau ïodin o 131 a oedd yn ddigon i achosi perygl i fabanod.

Ddoe, fe ddaeth yn glir bod plwtoniwm ymbelydrol yn gollwng o’r orsaf niwclear yn Japan ar ôl iddi gael ei difrodi yn y daeargryn a’r tswnami fwy na phythefnos yn ôl.