Anubis
Mae academydd o Brifysgol Caerdydd yn arwain tîm o archeolegwyr sy’n ymchwilo i ddrysfa o dwneli llawn mymïod cŵn o dan anialwch yn Aifft.

Paul Nicholson sy’n arwain prosiect Claddgelloedd Anubis o dan anialwch Saqqara y wlad.

Mae’r labrinth yn llawn anifeiliaid sy’n sanctaidd i’r duw pen-siacal, Anubis.

Daethpwyd o hyd i’r gladdgell yn y 19eg ganrif ond dyma’r tro cyntaf iddo gael ei archwilio yn iawn.

Yn ôl yr archeolegwyr sy’n gweithio yno mae tua 8,000,000 o anifeiliaid – y rhan fwyaf yn gŵn neu’n siacaliaid – wedi eu claddu yno.

Mae’r gwaith ymchwil yn awgrymu fod y rhan fwyaf wedi eu geni dyddiau neu oriau ynghynt pan y cafon nhw eu lladd a’u mymïo.

Mae’n debygol fod y cŵn wedi eu bridio yn eu miloedd mewn ffermydd cŵn bach ger cyn-brifddinas hynafol yr Aifft, Memphis.

“Mae ein canfyddiadau ni yn awgrymu fod y perthynas rhwng pobol a’r anifeiliaid oedden nhw’n eu haddoli yn wahanol i’r disgwyl,” meddai Paul Nicholson.

“Roedd nifer o’r anifeiliaid wedi eu lladd a’u mymïo o fewn oriau yn unig. Mae hynny’n awgrymu nad oedd yr anifeiliaid eu hunain yn sanctaidd, ond fod pobol yr Aifft yn ystyried aberthu’r anifeiliaid yn weithred dduwiol.

“Roedd yr anifail yn ryw fath o ffordd o wneud cysylltiad rhwng y rhoddwr a’r duwiau.”

Bydd y gloddfa archeolegol hefyd yn cynnwys gwaith dyddio carbon er mwyn cael gwybod beth yw oed y gladdgell.

Y gobaith yw y bydd y gwaith archeolegol o fudd i Adran Hynafiaethau’r Aifft wrth iddyn nhw ddiogelu’r safle ar gyfer y dyfodol.