Teigrod
Mae cyfrifiad teigrod mwyaf India wedi dangos cynnydd yn nifer y cathod mawr am y tro cyntaf.

Cyfrodd amgylcheddwyr o leiaf 1,706 o deigrod oedd yn byw mewn coedwigoedd ledled y wlad, tua 300 yn fwy na phedair blynedd yn ôl.

Dywedodd y Gweinidog Amgylcheddol, Jairam Ramesh, fod y cynnydd yn newyddion da ond na ddylai amgylcheddwyr orffwys ar eu rhwyfau.

Defnyddiodd y cyfrifwyr gamerâu cudd a phrofion DNA er mwyn cyfri’r cathod mawr mewn 17 talaith ble mae teigrod yn byw yn wyllt.

Roedd y cyfrifiad yn cynnwys 70 o deigrod o Barc Teigrod Sunderbans India, nad oedd wedi eu cyfri yn ystod y cyfrifiad diwethaf yn 2007.

Heb eu cyfrif nhw roedd cynnydd o 16% yn nifer y teigrod yn India.

Roedd cyfrifiad 2007 yn dangos fod 1,411 o deigrod yn India – cwymp mawr o’r 3,600 pum mlynedd ynghynt.

Canrif yn ôl roedd tua 100,000 o deigrod yn crwydro coedwigoedd India.

Wrth i’r coedwigoedd leihau mewn maint mae teigrod a phobol wedi gwrthdaro’r amlach, ac mae potswyr yn parhau i ladd teigrod am eu crwyn.