Llun o'r atomfa o'r awyr
Mae pryder bod dŵr ymbelydrol wedi lledu ymhellach na’r disgwyl o atomfa Fukushima Dai-ichi yn Japan.

Fe gadarnhaodd perchnogion yr orsaf niwclear, bod dŵr gyda lefelau uchel o ïodin ymbelydrol wedi ei weld tua milltir i’r gogledd o’r atomfa.

Mae’r ymbelydredd yn y dŵr 100,000 o weithiau’n fwy na’r lefelau arferol, meddai Cwmni Pŵer Trydan Tokyo.

Yn ôl rhai arbenigwyr, mae ffigurau anghywir a diffyg lle i storio dŵr ymbelydrol wedi creu trafferthion ychwanegol.

Daeargryn arall

Mae tua 600 o weithwyr yn gweithio yn yr atomfa i ddatrys y problemau sydd wedi effeithio ar sawl un o’r chwech adweithydd ar ôl y daeargryn a’r tswnami a drawodd Japan fwy na phythefnos yn ôl.

Mae’n ymddangos bod y dŵr ymbelydrol yn dod o Uned 2, a’r gred yw bod yr adweithydd yno wedi toddi’n rhannol.

Ar un adeg ddoe, roedd yna bryder am tswnami arall ar ôl daeargryn cry’ ond fe gafodd y rhybudd ei ddileu wedyn heb unrhyw adroddiadau am ddifrod.