Gwrthryfelwyr yn Brega'n dathlu buddugoliaethau cynharach
Mae cynghrair Nato wedi cymryd cyfrifoldeb am y cyfan o’r cyrchoedd yn Libya wrth i’r gwrthryfelwyr wthio lluoedd y Llywodraeth yn ôl.

Fe gafwyd cytundeb rhwng llysgenhadon Nato ym Mrwsel neithiwr ar ôl i ddwy o’r aelodau – Twrci a’r Almaen – wrthwynebu’r datblygiad.

Mae’n golygu y bydd y gynghrair yn cymryd yr awenau oddi ar yr Unol Daleithiau ac mae’r penaethiaid wedi addo parhau gyda’r ymosodiadau ar luoedd y Cyrnol Gaddafi.

“Ein nod yw gwarchod pobol gyffredin ac ardaloedd sifil sy’n dioddef ymosodiadau gan lywodraeth Gaddafi,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, Andres Fogh Rasmussen.

“Fe fydd Nato’n gweithredu pob agwedd ar benderfyniad y Cenhedloedd Unedig. Dim mwy, dim llai.”

Rhyddhau ardaloedd olew

Mae’r ymosodiadau hynny wedi helpu i ryddhau rhan helaeth o ardaloedd olew Libya o afael Gaddafi.

Mae’r gwrthryfelwyr hyd yn oed yn hawlio eu bod wedi cipio Sirte, tref enedigol yr Arlywydd – er nad oes cadarnhad swyddogol hyd yn hyn.

Ond maen nhw bellach yn rheoli trefi fel Brega ac Adjabiya a chanolfannau olew fel Ras Lanuf, gan olygu bod llawer o’r gallu i allforio olew o Libya yn nwylo’r gwrthryfelwyr.