Mae gweithwyr argyfwng yn wynebu rhwystrau cynyddol wrth geisio osgoi trychineb yn atomfa Fukushima yn Japan.

Yn eu plith mae ffigurau anghywir am lefelau ymbelydredd a phrinder tanciau storio ar gyfer dŵr ymbelydrol.

Fe ddechreuodd y diwrnod gyda swyddogion y cwmni trydan yn dweud bod yr ymbelydredd mewn dŵr sy’n gollwng yn adweithydd Uned 2 yn 10 miliwn gwaith uwch na’r hyn y dylai fod – a oedd wedi gorfodi gweithwyr i ffoi o’r uned.

Erbyn diwedd y diwrnod, fodd bynnag, roedd y cwmni’n ymddiheuro am gael y ffigur yn anghywir.

“Dyw’r rhif ddim yn gredadwy,” meddai llefarydd ar ran cwmni trydan Tokyo (Tepco). “Mae’n ddrwg iawn gennym.”

Er bod y dŵr wedi ei lygru ag ymbelydredd, does neb yn gwybod yr union lefelau.

Fe wnaeth y cwmni gadarnhau hefyd fod yr ymbelydredd yn yr awyr yn Uned 2 yn bedair gwaith uwch na’r lefel sy’n cael ei farnu’n ddiogel gan y llywodraeth. Fe fyddai hyn yn ei gwneud hi’n anodd iawn i weithwyr argyfwng fynd i mewn i bwmpio’r dŵr allan.

Y gred yw fod dŵr ymbelydrol yn dianc o graidd adweithydd yn un o unedau’r atomfa, ond does dim sicrwydd o ble’n union.

Blynyddoedd

Mae cwmni Tepco yn cydnabod y gallai gymryd amser hir i lanhau’r atomfa.

“Allwn ni ddim dweud ar hyn o bryd faint o fisoedd na blynyddoedd y bydd yn ei gymryd,” meddai Sakae Muto, is-lywydd y cwmni, gan fynnu mai’r prif nod ar hyn o bryd yw gadw’r adweithyddion yn oer.

Yn y cyfamser, cafwyd anawsterau wrth geisio ailgysylltu’r system oeri â’r prif gyflenwad trydan drwy fod yn rhaid gosod ceblau trwy adeiladau lle mae dŵr llygredig wedi gorlifo.

“Y drwg yw na all neb gyrraedd yr adeiladau lle mae gwaith trydain allweddol i’w wneud,” meddai Hidehiko Nishiyama o Asiantaeth Diogelwch Niwclear a Diwydiannol Japan. “Mae’n bosibl y bydd rhaid inni roi’r gorau i’r cynllun hwnnw.”

Mae’r argyfwng niwclear wedi arwain at bryderon am ddiogelwch bwyd a dŵr yn Japan, sy’n brif ffynhonnell bwyd môr i rai gwledydd. Mae ymbelydredd wedi ei ddarganfod mewn bwyd, dŵr môr  a hyd yn oed ddŵr tap yn Tokyo.

Erbyn y penwythnos yma, roedd ymbelydredd mewn dŵr môr gerllaw atomfa Fukushima wedi codi o 1,250 gwaith yr hyn y dylai fod i 1,850 gwaith y lefel arferol.

Mae hyd at 600 o bobl yn gweithio mewn shifftiau yn yr atomfa. Dywed swyddogion diogelwch fod eu hamser o fewn yr unedau llygredig yn cael ei fonitro o safbwynt ymbelydredd, ond fe fu’n rhaid mynd â dau weithiwr i’r ysbyty’r wythnos ddiwethaf ar ôl dioddef llosgiadau wrth gamu i ddŵr ymbelydrol.