Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae 12 o bobl wedi cael eu lladd mewn gwrthdaro treisgar rhwng protestwyr a milwyr mewn tref ar lan y Môr Canoldir yn Syria.

Dywed asiantaeth newyddion y wladwriaeth fod “elfennau arfog” wedi ymosod ar gymdogaethau yn nhref Latakia ddoe, gan saethu o ben y tai a brawychu pobl.

Yn ogystal â’r rhai a gafodd eu lladd, cafodd 200 eu hanafu, aelodau o’r lluoedd diogelwch yn bennaf, yn ôl yr adroddiad swyddogol.

Cafodd unedau o fyddin Syria eu gyrru i Latakia neithiwr ar ôl diwrnod o drais ac anhrefn lle bu protestwyr a’r llywodraeth yn cyhuddo’i gilydd o drais ac annog trais.

Ers dydd Gwener, mae’r cythrwfl a oedd wedi cychwyn yn ninas Deraa wythnos yn ôl wedi ymestyn trwy’r wlad wrth i filwyr saethu mewn o leiaf chwech o ddinasoedd, trefi a phentrefi, gan ladd tua 15 o brotestwyr,.

Rhaniadau sectyddol

Mae sectyddiaeth yn achosi rhaniadau dwfn yn y wlad, ac mae’r Arlywydd Bashar Assad wedi bod yn gosod ei gyd-ddilynwyr Alawite – cangen o adain Shiite Islam – yn y prif safleoedd o rym. Mae hefyd wedi bod yn gormesu unrhyw wrthwynebwyr i’w gyfundrefn trwy eu harestio, eu carcharu a’u cam-drin yn gorfforol.

Mae’r helyntion diweddaraf yn Syria yn cynrychioli elfen newydd a gwahanol yn y gwrthryfeloedd mewn gwledydd Arabaidd.

Hyd yma, mae’r rhan fwyaf o’r gwrthryfela wedi digwydd yn erbyn llywodraethau a oedd yn gefnogol i’r gorllewin. Roedd gan Tunisia, yr Aifft, Yemen a Bahrain berthynas gyfeillgar ag America, ac roedd hyd yn oed Libya wedi creu cysylltiadau â gwleydd Ewrop dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Syria, ar y llaw arall, yn wlad elyniaethus i’r gorllewin, lle mae Assad wedi bod yn adeiladu perthynas agos ag Iran. Mae hyn wedi galluogi’r wlad honno i ymestyn ei dylanwad i Libanus a thiriogaethau Palesteina, lle mae’n rhoi  arian ac arfau i wrthryfelwyr Hamas a Hezbollah.

Yn ôl arbenigwyr ar y Dwyrain Canol, er y gallai’r gwrthryfel yn erbyn Assad wanhau un o elynion y gorllewin, gallai hefyd greu ansefydlogrwydd peryglus yn un o’r gwledydd a allai fod ymysg y mwyaf cythryblus y Dwyrain Canol.