Dyn ynghanol y distryw yn Japan (AP Photo/Kyodo News)
Mae Cymraes o Langefni sy’n byw yn Japan ers dros ddau ddegawd wedi beirniadu’r cyfryngau yng ngwledydd Prydain am orliwio bygythiad ymbelydredd yn y wlad.

Fe ddywedodd  Rhian Yoshikawa sy’n byw ar dref lan môr tua dwy awr i’r gorllewin o’r brifddinas, Tokyo, fod papur Y Sun “yn enwedig” yn gwneud i’r sefyllfa niwclear edrych yn waeth o lawer na’r hyn ywy hi, gan wneud i “bobol fynd i banig.”

“Mae’r cyfryngau yn Japan yn cydnabod bod y sefyllfa’n beryglus. Ond maen nhw’n agored iawn,” meddai Rhian Yoshikawa wrth Golwg360.

Roedd hi’n siarad wrth i’r awdurdodau yn Japan barhau i geisio oeri adweithyddion yn atomfa Fukushima Dai-ichi a gafodd eu difrodi gan y daeargryn a’r tswnami wythnos yn ôl.

Ar y pryd, doedd y penderfyniad i godi’r lefel peryg o bedwar i bump ddim wedi’i wneud, ond roedd Rhian Yoshikawa wedi rhagweld y posibilrwydd o ddatblygiad o’r fath.

Gwybodaeth

“Rydan ni’n cael llawer o wybodaeth rŵan am ffigyrau’r lefelau ymbelydredd yn ogystal â  lluniau byw o’r orsaf niwclear a beth sy’n mynd ymlaen yno.

“Dw i’n darllen adroddiadau ar y We o Brydain ac o’r Unol Daleithiau yn ogystal â rhai o Japan. Maen nhw’i gyd yn dweud yr un peth … nad oes angen poeni ar hyn o bryd am eich iechyd ac mai o fewn 30 cilomedr i’r orsaf y mae’r perygl mwyaf.

“Dydw i ddim yn un i roi fy holl ffydd yn y Llywodraeth ond gan fod llawer o safleoedd annibynnol yn dweud yr un peth, dw i’n fwy parod i ymddiried ynddyn nhw,” meddai’r athrawes Saesneg sy’n fam i ddau o blant ac yn helpu yn siop llestri ei gŵr.

Ddoe, roedd y Swyddfa Dramor yn cynghori dinasyddion o wledydd Prydain i adael prifddinas Japan ac ardaloedd gogleddol gerllaw’ratomfa.

‘Ddim yn barod’

“Mae’r bobol o Japan sydd o fy nghwmpas yn eithaf calm. Des ganddyn nhw unman i ddianc a dydyn nhw ddim yn barod i adael eu cartrefi heb fwy o fanylion sicr,” meddai Rhian Yoshikawa.

“Meddyliwch, tasa  sefyllfa fel hyn yn codi yng Ngorsaf Bŵer Wylfa, fasa pawb o Sir Fôn jest yn codi pac a mynd oddi yno? Annhebygol iawn.
“Mae’n rhaid rhoi’r sefyllfa mewn persbectif. Mae’r papurau tramor yn sôn am y sefyllfa fel petai’n hawdd i bawb redeg. Yn fy marn i , fydd yna ddim “mass exodus” o Tokyo, chwedl y Sun, yn y dyfodol agos.”

Fe ddywedodd bod llawer o’i ffrindiau’ o wledydd eraill “wedi mynd i banig” oherwydd y papurau newydd yn eu gwledydd nhw ac am fod llawer o’r llysgenadaethau yn eu cynghori i ddychwelyd adref.

“Dydw i ddim yn meddwl am ddychwelyd adref gan fod fy mywyd, fy ngwaith a fy nheulu yma. Os daw cynnydd yn y ffigyrau, efallai bydd rhaid i mi ail feddwl. Ond, mi fydd hynny’n benderfyniad anodd iawn”.

Cefnogi’r Llywodraeth?

Mae peth trafodaeth wedi bod yn y wasg am y modd y mae Llywodraeth Japan wedi delio â’r trychineb. Ond, dyw Rhian Yoshikawa ddim yn eu beirniadu.

“Dw i’n credu bod y llywodraeth yn gwneud y gorau medran nhw i ymdopi â’r sefyllfa. Mae hi’n sefyllfa hollol annisgwyl ac mae’n  rhaid i’r boblogaeth roi eu cefnogaeth  i’r llywodraeth os am gael unrhyw siawns i ail adeiladu’r wlad.

“Nid amser i gwyno ydi hi ond i weithredu  a gwneud  yr hyn fedr  rhywun i wella’r  sefyllfa.
“Dw i’n falch iawn o’r siawns i gael dweud fy marn. Ac efallai i adael i bobol yng Nghymru wybod fod pobol yn Japan yn trio’n galed i weld y golau ar ddiwedd y twnnel ac am unrhyw obaith y daw pethau’n well.”