Cyn y tsunami - y pedwar adweithydd sydd mewn peryg yn Fukushima Dai-chi (Sefydliad Lluniau Daear Cenedlaethol)
Fe fu’n rhaid i weithwyr brys adael yr orsaf niwclear yn Japan wedi i ymbelydredd godi’n gyflym eto ar ôl y daeargryn a’r tsunami ddydd Gwener.

Er bod yr adroddiadau diweddara’n awgrymu bod yr argyfwng heibio am y tro, mae pryderon rhyngwladol yn parhau.

Mae Ffrainc wedi dweud wrth ei dinasyddion am adael y brifddinas, Tokyo, a gogledd-ddwyrain y wlad ac mae’r Swyddfa Dramor yn rhybuddio dinasyddion gwledydd Prydain rhag teithio yno.

Ac mae’r Undeb Ewropeaidd – a Llywodraeth Prydain – wedi gorchymyn arolwg o ddiogelwch ym mhob un o’r 143 o atomfeydd o fewn yr Undeb.

Tân mewn adweithydd

Fe gododd yr argyfwng diweddara’ wrth i ager gael ei weld yn codi o un o’r chwech adweithydd ar y safle ac mae tân wedi cynnau eto mewn un arall.

Ar hyn o bryd, mae’r awdurdodau yn Japan yn dweud nad yw ymbelydredd wedi codi y tu allan i safle’r atomfa ond mae’r gwynt yn chwythu i gyfeiriad y môr.

Roedd lefelau ymbelydredd wedi codi’n beryglus ger mynedfa’r gwaith ac fe gafodd y gweithwyr brys eu galw’n ôl gan olygu bod gwaith i atal y peryg wedi dod i ben am y tro.

Mae tua 140,000 o bobol wedi cael rhybudd i aros yn eu tai ond, ar hyn o  bryd, does dim sôn am symud rhagor o’u cartrefi.

Atal datblygu’r Wylfa?

Fe fydd gwyddonwyr yn archwilio holl orsafoedd niwclear yr Undeb Ewropeaidd i weld a fyddan nhw’n gallu gwrthsefyll y math o bwysau a ddaeth ar yr adweithyddion yn Japan.

Mae rhai’n credu y gallai’r trafferthion yn Japan atal busnesau rhag buddsoddi mewn atomfeydd yng ngwledydd Prydain – gan gynnwys Wylfa yn Ynys Môn.