Mae newyddion ar-lein yn fwy poblogaidd na phapurau newydd yn America bellach, wrth i ddyfeisiadau fel smartphones a thabledau electronig ddod yn fwy cyffredin.

Yn ôl sefydliad ymchwil yn America, fe wnaeth newyddion teledu, papurau newydd, radio a chylchgronau golli gwylwyr, gwrandawyr a darllenwyr y llynedd – ond fe gynyddodd y nifer a oedd yn darllen newyddion ar-lein 17% o gymharu â’r flwyddyn cynt.

Am y tro cyntaf erioed, mae canran uwch  o bobl yn dweud eu bod yn cael newyddion ar-lein o leiaf deirgwaith yr wythnos nag sy’n darllen papurau newydd.

Fe ddywedodd 41% o Americanwyr ym mis Rhagfyr eu bod nhw’n cael y rhan fwyaf o’u newyddion am faterion cenedlaethol a rhyngwladol ar y rhyngrwyd.

Mae newyddion ar-lein yn ail yn unig i newyddion teledu lleol fel y cyfrwng newyddion mwyaf poblogaidd – ac mae disgwyl y bydd yn curo hwnnw hefyd maes o law.

Fe ddaw’r wybodaeth o wythfed arolwg blynyddol cyflwr cyfryngau newyddion gan y Project for Excellence in Journalism.