Y tsunami yn Japan
Roedd ddoe ychydig yn fyrrach na’r arfer oherwydd y daeargryn anferth o arfordir Japan.

Cyhoeddodd un o geoffisegwyr Nasa, Richard Gross, bod cylchdro’r ddaear wedi cyflymu 1.6 microeiliad.

Roedd y newid o ganlyniad i symud ym màs o ddaear yn sgil y daeargryn 8.9 ar y raddfa Richter.

Roedd y newid ychydig yn ragor na’r un achoswyd gan y daeargryn rhagor o arfordir Chile’r llynedd.

Ond fe arafodd y ddaear 6.8 microeiliad o ganlyniad i’r daeargryn yn Sumatra yn 2004.

Y daeargryn yn Japan oedd y pumed cryfaf ers 1990.