Rio de Janeiro
Mae plismon milwrol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o saethu twrist o Sbaen yn farw yn Rio de Janeiro.

Cafodd Maria Esperanza Jimenez Ruiz, 67, ei saethu yn ei gwddf yn ardal Rocinha y ddinas pan fethodd y cerbyd yr oedd hi’n teithio ynddo â stopio.

Bu farw o’i hanafiadau yn yr ysbyty.

Yn ôl yr heddlu, roedd ffenestri tywyll y car yn eu hatal nhw rhag gweld y tu fewn. Yn ôl y gyrrwr, ni chafodd e orchymyn i stopio’r cerbyd.

Cafodd Davi dos Santos Ribeiro ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad, a chafodd plismon arall ei arestio mewn perthynas â’r digwyddiad.

Fe fydd y digwyddiad yn rhoi rhagor o bwysau ar yr heddlu, sydd eisoes yn cael eu beirniadu am weithredu cyn meddwl, ac ar gwmnïau teithio sy’n mynd â chwsmeriaid i ardaloedd peryglus.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac fe allai’r cwmni teithio wynebu cyhuddiadau hefyd.