Mae plaid asgell chwith o Gatalwnia sydd yn cefnogi annibyniaeth, wedi galw ar ddinasyddion i wrthwynebu Sbaen trwy “anufudd-dod sifil”.

Daw’r galw yn sgil penderfyniad Llywodraeth Sbaen i danio Erthygl 155 o’r cyfansoddiad gan wanhau awdurdod Llywodraeth Catalwnia.

Yn ôl plaid Ymgeisyddiaeth y Bobol (CUP), “dyma’r ymosodiad mwyaf ar hawliau pobol Catalwnia” ers unbennaeth y Cadfridog Francisco Franco.

Mae’r blaid wedi dweud y byddan nhw’n ymhelaethu ar eu cynlluniau i wrthwynebu’n heddychlon, yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Yn y cyfamser mae arlywydd Catalwnia Carles Puigdemont wedi galw ar aelodau’r senedd ranbarthol i ymgynnull i drafod a chynnal pleidlais ar eu hymateb i benderfyniad Llywodraeth Sbaen i gymryd rheolaeth o’r rhanbarth.

Credir ei fod yn bwriadu cyhoeddi annibyniaeth ar ôl iddo oedi cyn gwneud hynny er mwyn cynnal trafodaethau gyda Madrid.

Mae Llywodraeth Sbaen wedi gwrthod cynnal trafodaethau tra bod annibyniaeth yn parhau ar yr agenda ac yn cymryd camau i ddiswyddo holl brif swyddogion Catalwnia a chynnal etholiad rhanbarthol brys o fewn y chwe mis nesaf.