Luca Zaia, arlywydd Veneto, yn pleidleisio mewn refferendwm i geisio am fwy o bwerau. (Llun: Cyfrif Twitter Luca Zaia)
Mae arweinwyr dau ranbarth yng ngogledd yr Eidal wedi cyhoeddi buddugoliaeth yn eu refferendwm y penwythnos hwn i geisio am fwy o bwerau.

Dros y Sul mi gafodd dau refferendwm eu cynnal yn rhanbarthau Veneto a Lombardy wrth iddyn nhw alw am fwy o reolaeth dros faterion polisi gan gynnwys refeniw trethi, mewnfudo, diogelwch, addysg a’r amgylchedd.

Mi gafodd y ddau refferendwm eu cymeradwyo gan lys cyfansoddiadol yr Eidal, ond maen nhw’n peri bygythiad i awdurdod Rhufain gyda’r ddau ranbarth ymysg y rhai cyfoethocaf drwy’r wlad.

Yn ôl Luca Zaia, arlywydd Veneto, a Roberto Maroni, arlywydd Lombardy, fe wnaeth mwy na 90% o’r pleidleiswyr bleidleisio dros fwy o bwerau.

Mae’r arweinwyr yn dweud y byddan nhw’n trafod â’u cynghorau rhanbarthol yn awr cyn galw am drafodaethau yn Rhufain.