Mae trigolion Lombardy a Veneto yn yr Eidal yn pleidleisio heddiw ar fater datganoli pwerau o Rufain.
Dydy’r bleidlais yn y ddau ranbarth ddim yn un sy’n gorfodi newid yn y gyfraith, ond fe fyddai’n dwyn pwysau ar lywodraeth yr Eidal i rannu mwy o rym yn y wlad.
Mae arweinwyr y rhanbarthau am weld rhagor o rym tros ddiogelwch, mewnfudo, addysg a’r amgylchedd yn cael eu datganoli.
Yn ôl arlywydd Lombardy, Roberto Maroni, fe fyddai’n hapus i weld 34% o’r 7.5 miliwn o drigolion yn pleidleisio.
Ac fe fydd angen i 50%+1 o 3.5 miliwn o drigolion Veneto bleidleisio o blaid rhagor o bwerau er mwyn datganoli grym yn y fan honno.