Mae Carles Puigdemont wedi beirniadu camau Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy yn erbyn Catalwnia fel “ymosodiad ar ddemocratiaeth”.

Fe awgrymodd arweinydd Catalwnia fod annibyniaeth ar y gorwel wrth annog gwleidyddion i frwydro’n ôl.

Roedd Mariano Rajoy wedi dweud ei fod e’n dymuno i senedd Sbaen roi’r hawl iddo ddiddymu llywodraeth Catalwnia a chynnal etholiad cyn gynted â phosib.

Fe ddywedodd fod angen “adfer trefn” yng Nghatalwnia, ac mae’n awyddus i weld eu pwerau’n cael eu dychwelyd i weinidogion Sbaen.

Protest

Ond er yr ymdrechion i geisio atal annibyniaeth, daeth cannoedd o filoedd o bobol ynghyd ddoe ar strydoedd Barcelona i brotestio yn erbyn agwedd Sbaen.

Ac roedd Carles Puigdemont yn eu plith wrth iddo ystyried sut y bydd Catalwnia’n ymateb i’r camau diweddaraf gan Sbaen yn eu herbyn.

Dywedodd mai’r camau hyn yw’r “ymosodiad gwaethaf” ar drigolion Catalwnia ers i Franco ddiddymu’r llywodraeth yn 1939.