Dydy’r Arlywydd Donald Trump ddim yn debygol o geisio atal dogfennau’n ymwneud â marolwaeth un o’i ragflaenwyr, John F Kennedy rhag cael eu cyhoeddi.

Mae disgwyl y gallai miloedd o ddogfennau gael eu cyhoeddi’n fuan, ac mae gan yr Archifau Cenedlaethol tan ddydd Iau i gwblhau’r broses.

Gallai’r casgliad gynnwys hyd at 3,000 o ddogfennau sydd heb gael eu gweld o’r blaen, a thros 30,000 o ddogfennau sydd wedi cael eu cyhoeddi o’r blaen ond sydd bellach wedi cael eu golygu.

Penderfynodd yr Unol Daleithiau yn 1992 y dylid cyhoeddi’r holl ddogfennau o fewn 25 mlynedd, ond fe allai’r Arlywydd Donald Trump atal hynny rhag digwydd am resymau gwleidyddol.

Mae’r awdur Larry Sabato, sydd wedi ysgrifennu llyfrau am John F Kennedy wedi croesawu’r newyddion, gan ddweud eu bod nhw “wedi cael eu cuddio am yn rhy hir”.

Cynnwys

Mae hi’n annhebygol y bydd y dogfennau’n cynnwys unrhyw wybodaeth ysgytwol am farwolaeth John F Kennedy, er gwaethaf yr holl ddamcaniaethau ar hyd y blynyddoedd.

Yn ôl ysgolheigion, fe allai’r casgliad awgrymu pam fod Lee Harvey Oswald wedi teithio i Ddinas Mecsico wythnosau’n unig cyn iddo ladd yr Arlywydd yn 1963. Roedd e wedi ymweld â llysgenhadaeth Ciwba a’r Undeb Sofietaidd yn ystod y daith.

Dywedodd ei fod e am gael fisa i deithio i’r ddwy wlad, yn ôl Comisiwn Warren, y comisiwn a gafodd ei sefydlu gan y cyn-Arlywydd Lyndon B Johnson.

Mae cyfaill i’r Arlywydd Donald Trump, Roger Stone wedi awgrymu bod Lyndon B Johnson wedi gyrru’r broses o ladd John F Kennedy, ac mae e wedi annog yr Arlywydd presennol i roi sêl bendith i gyhoeddi’r cofnodion.

Ond mae e’n honni nad yw’r CIA yn awyddus i weld y dogfennau’n cael eu cyhoeddi am eu bod nhw “wedi hyfforddi Lee Harvey Oswald” i ladd John F Kennedy.