Mae dyn 33 oed wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad ar nifer o bobol ym Munich.

Cafodd wyth o bobol anafiadau ar ôl cael eu trywanu.

Ond dydy’r heddlu ddim yn credu mai ymosodiad brawychol oedd e, er nad ydyn nhw’n gwybod eto beth oedd wedi ei gymell.

Roedd gan y dyn gofnod troseddol blaenorol.