Mae o leiaf 55 o blismyn wedi cael eu lladd yn dilyn gwrthdaro ger Cairo.

Roedden nhw’n cynnal cyrch ar ganolfan gwrthryfelwyr pan gawson nhw eu saethu’n farw.

Fe ddigwyddodd y gwrthdaro yn ardal Al-Wahat al-Bahriya yn Giza.

Yn ôl yr awdurdodau, fe allai nifer y meirw godi eto.