Mae penodi Arlywydd Zimbabwe, Robert Mugabe yn llysgennad ewyllys da Sefydliad Iechyd y Byd wedi siomi Llywodraeth Prydain, sydd wedi beirniadu’r penodiad.

Dywedon nhw fod y penderfyniad yn eu “synnu” a’u “siomi” o ystyried ei record ar hawliau dynol yn arweinydd ei wlad.

Dywedodd llefarydd fod Llywodraeth Prydain wedi crybwyll y mater gyda Sefydliad Iechyd y Byd, gan rybuddio bod y penodiad yn bygwth bod yn gysgod tros waith da y sefydliad wrth fynd i’r afael ag afiechydon cronig.

Yn ôl cyfarwyddwr cyffredinol y Sefydliad, Tedros Adhanom Ghebreyesus, fe fydd Robert Mugabe yn gallu “dylanwadu ar ei gyfoedion yn y rhanbarth”, gan ychwanegu fod Zimbabwe yn “wlad sy’n rhoi sylw i iechyd byd-eang a hybu iechyd wrth galon ei pholisïau i ddarparu gofal iechyd i bawb”.

Methiannau

Ond roedd elusen Ffisegwyr tros Hawliau Dynol wedi cyhoeddi adroddiad yn 2008 yn tynnu sylw at fethiannau Robert Mugabe ym maes hawliau dynol.

Bryd hynny, dywedodd yr elusen fod Robert Mugabe yn gyfrifol am wyrdroi mynediad pobol at fwyd, dŵr glan, systemau glendid sylfaenol a gofal iechyd.

Fe gyhuddodd yr Arlywydd o wneud popeth o fewn ei allu i gadw ei afael ar rym, gan gynnwys “cau ysbytai a chlinigau, cau ysgol feddygol a churo gweithwyr gofal”.