Mae Catalwnia yn rhan allweddol o Sbaen, yn ôl y Brenin Felipe VI mewn araith yn Oviedo.

Dywedodd fod rhaid i holl drigolion Sbaen barchu’r Cyfansoddiad ac egwyddorion democratiaeth.

Fe gyhoeddodd Llys Cyfansoddiadol Sbaen yn ddiweddar fod y refferendwm annibyniaeth a gafodd ei gynnal yng Nghatalwnia’n anghyfreithlon ac yn anghyfansoddiadol, ac maen nhw’n gwrthod derbyn y canlyniadau.

Mae disgwyl i Brif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy gyhoeddi mesurau arbennig yn erbyn Catalwnia heddiw yn sgil y bleidlais ac ar ôl dod i gytundeb â gwrthbleidiau Sbaen.

Ond mae e wedi gwrthod cadarnhau bod cynnal etholiadau “rhanbarthol” yng Nghatalwnia ym mis Ionawr yn un o’r mesurau.

‘Y nod yn ddeublyg’

Dywedodd Mariano Rajoy fod nod ei lywodraeth o safbwynt Catalwnia’n “ddeublyg”, sef “dychwelyd i gyfreithlondeb ac adfer normalrwydd sefydliadol”.

Ychwanegodd na chafodd y mater fawr o sylw mewn uwchgynhadledd i arweinwyr Ewrop gan ei fod yn fater mewnol.

Mae un o’r gwrthbleidiau Sosialaidd eisoes wedi cadarnhau bod cynnal etholiadau rhanbarthol yn rhan o’r camau yn erbyn Catalwnia.

Ac mae disgwyl i’r cam hwnnw arwain at ragor o densiwn rhwng Sbaen a Chatalwnia, a allai olygu bod Catalwnia yn datgan ar unwaith ei bod yn wlad annibynnol.

Dechrau gweithredu

Mae disgwyl i Gabinet Sbaen ddechrau heddiw ar gamau i dynnu pwerau oddi ar Gatalwnia yn unol â Chymal 155 y Cyfansoddiad, sy’n datganoli pwerau i ranbarthau Sbaen.

Dydy’r cam ddim wedi cael ei weithredu ers dyddiau Franco, ac mae angen sêl bendith y Senedd cyn ei weithredu.

Ond mae gan blaid Mariano Rajoy fwyafrif yn y Senedd, sy’n golygu na ddylai hynny achosi fawr o drafferth iddo.

Mae lle i gredu bod gan y llywodraeth gefnogaeth y blaid Ciudadanos hefyd.

Protestiadau

Wrth i lywodraeth Sbaen baratoi i weithredu, mae trigolion Catalwnia wedi dechrau tynnu arian allan o’r banciau fel rhan o brotest yn erbyn cwmnïau sydd wedi symud eu pencadlysoedd i ardaloedd eraill yn Sbaen.

Daeth y weithred honno ar ôl i arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont wrthod gwneud tro pedol ddydd Iau ar gynlluniau i alw am annibyniaeth.

Fe anfonodd lythyr at Mariano Rajoy ychydig funudau cyn y dedlein a gafodd ei gosod am benderfyniad.

Ymateb Sbaen oedd galw cyfarfod o’r Cabinet gyda’r bwriad o weithredu Cymal 155.