Ymosodiad blaenorol gan y Taliban yn Afghanistan (Llun: PA)
Mae’r Taliban wedi lladd o leiaf 58 o swyddogion diogelwch Afghanistan, a hynny mewn ton o ymosodiadau ar hyd a lled y wlad.

Fe fu bron iawn i un gwersyll milwrol yn Kandahar gael ei chwalu’n llwyr gan ymosodiad, wedi i ddwy fom car ffrwydro ac i ymladd wedi hynny ladd 43 o filwyr.

Fe gafodd naw o filwyr eraill eu hanafu, ac mae chwech yn dal i fod ar goll.

Fe gafodd datganiad ei ryddhau’n ddiweddarach gan y Taliban, yn hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Yn nhalaith gogleddol Balkh, fe fu ymosodiadau eraill a laddodd chwech o blismyn. Ac eto yn nhalaith Farah yng ngorllewin y wlad, bu farw naw o swyddogion.

Y gred ydi fod cyfanswm o 32 o ymosodwyr hefyd wedi’u lladd yng nghwrs y dydd.

Ddydd Mawrth yr wythnos hon, fe gyhoeddodd y Taliban eu bwriad i gynnal ton o ymosodiadau yn Afghanistan, gan dargedu canolfannau’r heddlu a gwersylloedd milwrol trwy ddefnyddio hunanfomwyr.