Bydd Sbaen yn dechrau’r broses o dynnu pwerau oddi ar Gatalwnia dros y penwythnos, wedi i arweinydd y rhanbarth fygwth datgan annibyniaeth.

Mewn llythyr at Brif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, mae Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, wedi rhybuddio y bydd yn datgan annibyniaeth “os bydd y gormes yn parhau”.

Ac mae Llywodraeth Sbaen wedi ymateb trwy ddatgan y bydd sesiwn o’r cabinet yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn (Hydref 21) er mwyn trafod tanio Erthygl 155 cyfansoddiad y wlad. Byddai hynny’n galluogi’r Llywodraeth i ddechrau’r broses o dynnu pwerau oddi ar Gatalwnia.

Nid yw’r erthygl honno wedi ei defnyddio ers dyddiau unbennaeth y Cadfridog Francisco Franco.

Bydd angen cefnogaeth Aelodau Seneddol Sbaen er mwyn caniatáu taniad y mesur, a gan fod plaid Mariano Rajoy – Partido Popular – â mwyafrif nid yw’n debygol o gael ei rwystro.

Mae Llywodraeth Sbaen wedi cynnig gohirio gweithrediad Erthygl 155 dan yr amod bod Catalwnia yn cynnal etholiad rhanbarthol brys, ond mae Catalwnia wedi gwrthod y cynnig.