Senedd Seland Newydd
Mae llywodraeth glymblaid wedi’i sefydlu yn Seland Newydd, gyda phennaeth y Blaid Lafur, Jacinda Ardern, yn Brif Weinidog.

Mae pobol Seland Newydd wedi bod yn aros yn eiddgar am sefydlu llywodraeth ers etholiad Medi 23 – etholiad pryd y methodd yr un blaid â sicrhau mwyafrif clir.

Yn rhan o’r glymblaid fydd y Blaid Lafur, y Blaid Werdd a phlaid New Zealand First.

 hithau’n 37 blwydd oed, Jacinda Ardern fydd arweinydd ieuengaf Seland Newydd ers 150 o flynyddoedd.

Mae’r arweinydd wedi dweud ei bod yn bwriadu adeiladu miloedd o dai fforddiadwy, gwario ar iechyd ac addysg, a glanhau dyfroedd llygredig.