Mae Prif Weinidog Sbaen wedi rhybuddio arweinyddion Catalwnia i dynnu eu cais am annibyniaeth yn ôl, a hynny diwrnod cyn dyddiad cau arwyddocaol a all newid dyfodol Sbaen fel gwald.

Fe roddodd Mariano Rajoy tan yfory (dydd Iau) i Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, amlinellu p’un ai yw am barhau gyda’i gynlluniau am annibyniaeth neu beidio.

Gyda hyn, mae’r llywodraeth ganolog ym Madrid wedi dweud y byddan nhw’n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y rhanbarth pe bai ei harweinwyr yn dewis mynd am annibyniaeth, gan fygwth tynnu pwerau oddi ar y senedd ddatganoledig yno.

Wrth annerch y senedd ym Madrid, galwodd y Prif Weinidog ar Carles Puigdemont i “ymddwyn yn synhwyrol”, gan feddwl am les pobol Sbaen a Chatalwnia fel ei gilydd.

Protest yn y Senedd

Yn ystod yr anerchiad hefyd, fe wnaeth tua hanner cant o aelodau seneddol Sbaeneg a Chatalwneg ddal posteri i fyny, gan fynnu y dylai dau o arweinwyr mudiadau annibyniaeth Catalwnia gael eu rhyddhau o’r carchar.

Roedd y brotest hon yn rhan o brotestidau ehangach sy’n digwydd ledled Catalwnia ei hun wedi i Jordi Sanchez a Jordi Cuixart, arweinwyr y Catalan National Assembly a Omnium Cultural, gael eu carcharu ddydd Llun am achosion o danseilio awdurdod y wladwriaeth.

Mae’r digwyddiadau hyn i gyd yn rhan o’r tensiynau cynyddol sydd wedi bodoli rhwng arweinwyr Sbaen a Chatalwnia ers Hydref 1, pan fynegodd 90% o bleidleiswyr Catalwnia eu dymuniad i adael Sbaen mewn refferendwm.