Mae tua 60 o bobol yn dal i fod ar goll yng Nghaliffornia, a hynny wythnos ar ôl i danau gwyllt gynnau yno.

Hyd yn hyn, nid yw’r gwasanaethau tân wedi medru dod â’r fflamau dan reolaeth, sy’n lledu ar draws ardaloedd Napa a Sonoma – ardaloedd sy’n enwog am eu gwin.

Mae’r tanau yn barod wedi achosi marwolaeth 40 o bobol, ac mae’n debyg bod un dyn tân wedi’i ladd ar ôl i’w injan dân foelyd ar heol fynyddig yn Sir Napa.

Er hyn, mae nifer y rhai sydd ar goll wedi gostwng o 100 ers dydd Llun, er ei bod yn anodd gwybod faint yn union sydd ar goll, gan fod adroddiadau’n cynnwys enwau wedi’u dyblu.

Mae miloedd o bobol wnaeth ffoi hefyd wedi cael caniatâd i ddychwelyd i’w cymunedau, wrth i’r tanau a’r mwg glirio mewn rhai llefydd.