T♂n gwyllt mewn coedwig yn y wlad
Mae’r gweinidog  
a oedd yn gyfrifol am wasanaethau brys Portiwgal wedi ymddiswyddo wedi i 106 o bobol farw mewn tanau gwyllt eleni.

Mae Llywodraeth Portiwgal wedi cadarnhau ar eu gwefan bod Prif Weinidog y wlad, Antonio Costa, wedi derbyn llythyr ymddiswyddiad gan Constanca Urbano de Sousa.

Yn y llythyr mae Constanca Urbano de Sousa yn dweud ei bod hi wedi bwriadu ymddiswyddo bedwar mis yn ôl pan fu farw 64 mewn tanau gwyllt.

Ond, roedd y Prif Weinidog wedi gofyn iddi aros yn ei swydd meddai hi.

Daw ei ymddiswyddiad yn sgil marwolaeth 42 o bobol mewn tannau gwyllt dros y penwythnos.

Mae’r gweinidog yn honni ei bod wedi gosod sail ar gyfer newidiadau polisi i fynd i’r afael â thannau gwyllt.