Fffoaduriaid rohingya (Llun: Trwydded Agored y Llywodraeth)
Mae lluoedd diogelwch Burma wedi lladd miloedd o ddynion, merched a phlant fel rhan o ymgyrch fwriadol i gael gwared â Mwslimiaid Rohingya o’r wlad, yn ol adroddiad newydd gan fudiad Amnest Rhyngwladol.

Mae mwy na 580,000 o ffoaduriaid wedi croesi’r ffin i Bangladesh ers Awst 25 eleni, sef y dyddiad pan ddechreuodd yr ymgyrch losgi yn erbyn pentrefi Rohingya.

Mae llywodraeth Burma yn dweud ei bod yn ymateb i ymosodiadau gan Fwslimiaid, ond mae’r Cenhedloedd Unedig ac eraill yn dweud ei bod wedi gorymateb.

Yn dilyn cyfres o gyfweliadau gyda phobol yn ffoi o Burma, mae Amnest Rhyngwladol yn dweud fod beth bynnag gannoedd o bobol wedi’u lladd gan luoedd diogelwch mewn pentrefi. Maen nhw hefyd yn adrodd fod pobol oedd yn ffoi wedi cael eu saethu, bod adeiladau wedi’u rhoi ar dân, a bod hen bobol wedi’u llosgi’n fyw.

Mewn rhai pentrefi, fe gafodd gwragedd a merched eu treisio, yn ol yr adroddiad.