Xi Jinping, arlywydd Tsieina (CCA 2.0)

Mae Arlywydd Tsieina wedi galw am ymyrraeth economaidd a chymdeithasol er mwyn mynd i’r afael â heriau “difrifol” sydd yn wynebu’r wlad.

Wrth agor diwrnod cyntaf cyngres y blaid gomiwnyddol, dywed Xi Jinping bod problemau yn Tsienia mewn sawl maes gan gynnwys addysg ac iechyd.

Ond, llwyddodd hefyd i daro tôn cenedlaetholgar yn yr araith, a mynnodd fod angen amddiffyn sofraniaeth Tsieina ac adfywio diwylliant Tsieineaidd.

“Nid ar chwarae bach y caiff cenedl ei adfywio. Rhaid i’r blaid oll baratoi i ymdrechi’n fwy. Rhaid brwydro i wireddu breuddwydion,” meddai wrth gannoedd o aelodau.

Degawd wrth y llyw?

Mae cyngresi’r blaid yn cael eu cynnal dwywaith bob degawd, ac yn ystod y cynadleddau yma mae’r blaid yn penderfynu os ydyn nhw am ganiatáu i Arlywydd y wlad i barhau yn ei rôl.

Mae Xi Jinping eisoes wedi bod wrth y llyw ers pum mlynedd ac mae disgwyl i’r blaid ganiatáu iddo barhau am bum mlynedd arall.