Rhagolygon y tywydd yng Nghaliffornia (Llun: Euros Rhys Evans)
Mae’r awdurdodau yng Nghaliffornia wedi cadarnhau bod deugain o bobol wedi eu lladd a bod miloedd o dai wedi cael eu dinistrio gan danau gwyllt yn y dalaith.

Er bod swyddogion yn dechrau cael y fflamau dan reolaeth mae disgwyl i nifer y meirw gynyddu ymhellach wrth i adeiladau sydd wedi’u difrodi gael eu harchwilio.

Yn ôl Euros Rhys Evans o Fro Morgannwg, sydd wedi bod yn gweithio fel arholwr cerddorol yn y dalaith, mae’r brodorion yn cyfeirio at y tanau fel y “gwaethaf mewn cof.”

Mae Euros Rhys Evans o Rws wedi bod yn ardal Los Angeles ers tuag wythnos ac mae’n debyg fod y tywydd yn yr ardal – mae’r tymheredd dros 30C bob dydd  – yn “felltith i’r trigolion lleol.”

“Dyw hi heb fwrw glaw yn California ers mis Mawrth,” meddai wrth golwg360. “Felly, mae’r ddaear a’r glaswellt a’r fforestydd yn sych grimp.”

“Mae hefyd yn anarferol o dwym – mae’n debyg fod y tymheredd presennol hyd yn oed yn dwymach nag oedd hi ganol haf. Mae hyn yn hyfryd i bobol fel fi sy’n ymweld, ond yn felltith i’r trigolion lleol.”

Heidio i westai

Mae  Euros Rhys Evans yn dweud bod nifer wedi gorfod gadael eu cartrefi i aros mewn gwestyai yn sgil y tanau ac yn sôn am ei brofiadau wrth aros mewn gwesty yn ninas Santa Ana wythnos ddiwethaf.

“Ro’n i’n siarad ag un teulu wrth gael brecwast – fe gawson nhw hanner awr o rybudd fod yn rhaid gadael [eu tŷ],” meddai.

“Doedd dim lot o eiddo gyda nhw – ambell ges a bag – a chi anwes bach dan gesail un o’r plant. Roedd y gwesty wedi dileu rheol ‘Dim cŵn’ yn wyneb yr argyfwng.”

Bellach mae’r “tanau marwol” yn brif stori ym mwletin newyddion yr Unol Daleithiau yn ôl Euros Rhys Evans, ac mae’n debyg fod pobol i’r de o Los Angeles wedi dechrau gofidio am y tanau.