Mewn llythyr at lywodraeth Sbaen,  mae arweinydd Catalwnia wedi galw am ragor o drafodaethau, ond nid yw wedi egluro’r sefyllfa’n glir o ran cyhoeddi statws annibynnol.

Roedd Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, wedi rhoi tan heddiw (Hydref 16) i arweinydd Catalwnia gadarnhau p’un a yw wedi datgan annibyniaeth ai peidio.

Ond mae’n debyg nad yw’r Arlywydd Carles Puigdemont wedi cadarnhau yn y llythyr a yw wedi cyhoeddi annibyniaeth o Sbaen.

Mae llywodraeth Mariano Rajoy wedi gwrthod cynnal trafodaethau gyda Carles Puigdemont nes eu bod yn rhoi’r gorau i alw am annibyniaeth.

Fe gyhoeddodd Carles Puigdemont wythnos ddiwethaf ei fod yn gohirio datganiad annibyniaeth “am ychydig wythnosau” er mwyn rhoi cyfle i drafodaethau gyda llywodraeth ganolog Sbaen.

Ond mae’r blaid asgell chwith CUP a mudiad ar lawr gwlad wedi bod yn pwyso arno i beidio â disgwyl dim mwy.

Daw hyn ar ôl i 90% o bleidleiswyr fynegi eu dymuniad i adael Sbaen mewn refferendwm ar 1 Hydref. Ond mae llywodraeth Sbaen wedi datgan bod y refferendwm yn anghyfreithlon ac yn anghyfansoddiadol.