Mae 189 o bobol wedi marw erbyn hyn yn dilyn y ffrwydrad gwaethaf erioed yn hanes Somalia.

Cafodd 200 o bobol eu hanafu.

Roedd rhai o’r cyrff wedi’u llosgi cymaint fel nad oedd modd eu hadnabod, yn ôl yr awdurdodau.

Mae pryderon y gallai nifer y meirw godi ymhellach, wrth i’r ymdrechion i ddod o hyd i bobol barhau.

Mae Arlywydd y wlad, Mohamed Abdullahi Mohamed wedi cyhoeddi tridiau o alaru, ac mae e wedi apelio am waed i helpu’r bobol sy’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty. Mae miloedd o bobol eisoes wedi dechrau rhoi gwaed i ysbytai.

Al-Shabab sy’n cael y bai am y ffrwydrad gan lywodraeth Somalia, ond dydyn nhw ddim wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn.

Mae’r Unol Daleithiau wedi beirniadu’r rhai sy’n gyfrifol am y ffrwydrad.

Mae al-Shabab yn brwydro yn erbyn byddin Somalia a lluoedd sy’n eu cynorthwyo nhw.