Mae dirprwy arlywydd Catalwnia wedi galw am undod ymhlith cenedlaetholwyr y wlad.

Wrth annerch aelodau ei blaid, y Chwith Weriniaethol, yn Barcelona heddiw, dywedodd Oriol Junqueras:

“Rhaid inni ailadrodd ein cred mewn undod, mewn undod y tu ôl i’n llywodraeth a mwyafrif y senedd.

“Rhaid inni gadw’r undod sy’n angenrheidiol er mwyn mynd yr holl ffordd ar y llwybr hwn i weriniaeth.”

Mae ei alwad yn dilyn arwyddion o rwygiadau ymhlith rhai cenedlaetholwyr ar ôl cyhoeddiad yr Arlywydd Carles Puigdemont ei fod yn gohirio datganiad annibyniaeth “am ychydig wythnosau” er mwyn rhoi cyfle i drafodaethau gyda llywodraeth ganolog Sbaen.

Mae’r blaid asgell chwith CUP a mudiad ar lawr gwlad wedi bod yn pwyso arno i beidio â disgwyl dim mwy.

Gyda’r Chwith Weriniaethol mewn clymblaid gyda chenedlaetholwyr ceidwadol Carles Puigdemont, mae eu cefnogaeth yn hanfodol i’r ymgyrch dros annibyniaeth.

“Y ffordd orau i genedlaetholwyr yw dangos i’r byd pwy yw Catalwnia, pwy sydd eisiau cynnig deialog, a phwy sy’n ei wrthod,” meddai Oriol Junqueras.