Cyn y storm - rhanbarth Hao Binh yn Fietman (Tycho CCA3.0)
Mae o leia’ 54 o bobol wedi eu lladd mewn storm a llifogydd yn Fietnam, gyda 39 arall ar goll.

Dyma’r tywydd gwaetha’ i daro’r wlad yn Nwyrain Asia ers blynyddoedd, meddai’r awdurdodau, ac mae’r dinistr ar ei waetha’ yng ngogledd a chanolbarth y wlad.

Cafodd stad o argyfwng ei gyhoeddi mewn taleithiau fel Hao Binh lle mae dŵr wedi gorfod cael ei ollwng o argae anferth rhag ofn iddi dorri.

Mae 30,000 o dai o dan ddŵr ac, yn ôl swyddogion lleol, mae difrod mawr wedi’i wneud i isadeiledd y wlad ac i gnydau.

Fe drawodd y storm ddydd Mawrth ac, yn ôl y rhagolygon, mae storm fawr arall ar y ffordd.