Mae’r Unol Daleithiau wedi datgan eu bod yn gadael asiantaeth ddiwylliannol y Cenhedloedd Unedig oherwydd ei duedd “gwrth-Israel.”

Fe roddodd yr Unol Daleithiau y gorau i ariannu UNESCO pan ddaeth Palesteina yn aelod o’r asiantaeth yn 2011, ond er hynny fe gadwon nhw eu swyddfa ym mhencadlys y corff.

Mae’r Prif Gyfarwyddwr UNESCO, Irina Bokova, wedi ymateb trwy nodi bod ymadawiad yr Unol Daleithiau yn golled i “deulu’r Cenhedloedd Unedig”.

Mae UNESCO yn adnabyddus yn bennaf am ei rhaglen Treftadaeth y Byd sydd yn amddiffyn safleoedd diwylliannol nodedig – mae Castell Caernarfon a thref Blaenafon yn eu plith.

Ymadael 

Yn ôl awdurdodau’r Unol Daleithiau, mae’r wlad wedi bod yn paratoi i adael ers peth misoedd ac roedd disgwyl cyhoeddiad cyn diwedd y flwyddyn.

Fe adawodd yr Unol Daleithiau UNESCO yn yr 1980au am resymau gweinyddol a gwleidyddol, ond fe wnaethon nhw ail-ymuno yn 2003.