Ffrwydrad, Brwsel (Llun: PA)
Mae dyn 39 oed o Wlad Belg wedi cael ei gyhuddo o droseddau brawychol mewn perthynas â’r ymosodiad ym Mrwsel fis Mawrth y llynedd.

Cafodd y dyn ei enwi’n lleol fel ‘Brahim T’.

Dywedodd yr awdurdodau ei fod e wedi’i gyhuddo o fod â rhan mewn gweithredoedd grŵp brawychol, llofruddiaeth frawychol ac o geisio llofruddio am resymau brawychol.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron llys ym Mrwsel o fewn y pum niwrnod nesaf.

Mae lefel diogelwch Brwsel ar ei uchaf ers i hunanfomwyr ladd 32 o bobol ym maes awyr a gorsaf danddaearol Brwsel ar Fawrth 22, 2016.