Mae Llywodraeth Sbaen wedi cyfarfod i drafod sefyllfa Catalwnia yn dilyn y refferendwm annibyniaeth diweddar.

Daw’r cyfarfod ar ôl i arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont ddweud ei fod yn bwriadu datgan bod y wlad bellach yn annibynnol.

Mae disgwyl i Brif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy annerch y wlad yn ddiweddarach heddiw ar ôl bod yn cadeirio’r cyfarfod brys ar gyrion Madrid.

Dywedodd Carles Puigdemont nos Fawrth y byddai annibyniaeth yn digwydd, ond ei fod yn fodlon gohirio’r datganiad swyddogol er mwyn neilltuo amser ar gyfer trafodaethau pellach.

Ond mae’n ymddangos nad yw Llywodraeth Sbaen yn fodlon cymodi, na’u bod nhw’n fodlon derbyn canlyniad y refferendwm annibyniaeth ar ôl dweud ei fod yn anghyfreithlon ac yn anghyfansoddiadol.

Mae Llywodraeth Sbaen wedi cyhuddo Carles Puigdemont o weithredu’n “ddi-gyfeiriad” ac o achosi ansicrwydd drwy Sbaen.

Fe allai Sbaen benderfynu gweithredu ar Gymal 155 y Cyfansoddiad er mwyn rhoi grym iddyn nhw eu hunain i reoli eu ‘rhanbarthau’ os ydyn nhw’n gweithredu’n groes i’w dymuniadau.

Pleidleisiodd 2.3 miliwn o drigolion Catalwnia – 43% o’r boblogaeth – yn y refferendwm. Yn ôl awdurdodau Catalwnia, roedd 90% ohonyn nhw o blaid annibyniaeth.

Roedd Llywodraeth Sbaen yn dymuno gweld Sbaen gyfan yn cael pleidleisio yn y refferendwm.