Y difrod yn Fukushima Llun: PA
Mae llys wedi gorchymyn bod yn rhaid i Lywodraeth Japan a gweithredwr gorsaf bŵer Fukushima, dalu £3.4 miliwn i drigolion a gafodd eu heffeithio gan yr argyfwng niwclear yn 2011.

Bu ffrwydrad yng ngorsaf bŵer Fukushima Daiichi pan wnaeth daeargryn a swnami daro’r rhanbarth. Cafodd deunydd ymbelydrol ei rhyddhau a’i wasgaru yn sgil yr argyfwng.

Yn ôl Llys Cylch Fukushima, methodd y llywodraeth â gorfodi cwmni Tokyo Electric Power Co (Tepco) i wella mesurau diogelwch – er eu bod yn ymwybodol o risg swnami  yn yr ardal.

Dywedodd y llys ddydd Mawrth y gallai’r llywodraeth fod wedi atal yr argyfwng trwy orchymyn Tepco i symud lleoliad eu generaduron a thrwy wella diogelwch eu hadweithyddion.

Generaduron yr orsaf oedd yn rhwystro’i hadweithyddion rhag gorboethi, a phan darodd y daeargryn a’r swnami cafodd y rhain eu dinistrio.