Mae cannoedd o bobol wedi ymgynnull yn Barcelona i brotestio yn erbyn ymdrechion Catalwnia i fynd yn wlad annibynnol.

Daw’r rali wythnos ar ôl i 90% o bleidleiswyr fynegi eu dymuniad i adael Sbaen.

Ond mae llywodraeth Sbaen wedi datgan bod y refferendwm yn anghyfreithlon ac yn anghyfansoddiadol.

Llai na hanner poblogaeth Catalwnia oedd wedi pleidleisio yn y refferendwm.

Ond mae Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont yn mynnu y bydd y wlad yn mynd yn annibynnol yn ôl dymuniad ei phobol.

Ymhlith y rhai y mae disgwyl iddyn nhw annerch y rali heddiw mae enillydd Gwobr Lenyddol Nobel, Mario Vargas Llosa a chyn-Lywydd Senedd Ewrop, Josep Borrell.