Mae Aelod Seneddol yng Nghatalwnia wedi galw am gadoediad gyda Sbaen er mwyn lleihau’r gwrthdaro yn dilyn y refferendwm annibyniaeth yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Santi Vilà wrth orsaf radio Cadena SER Radio ei fod yn chwilio am “gyfle newydd am drafodaeth” gydag awdurdodau Sbaen.

Ychwanegodd ei fod yn gwrthwynebu cyhoeddi bod Catalwnia yn wlad annibynnol ar hyn o bryd, gan alw am sefydlu pwyllgor o gynrychiolwyr o Sbaen a Chatalwnia er mwyn cynnal trafodaethau.

Yn ôl trigolion Catalwnia, maen nhw’n wlad annibynnol bellach ar ôl i fwy na 90% o bleidleiswyr ddewis annibyniaeth, ond mae Llywodraeth Sbaen yn mynnu bod y refferendwm yn anghyfreithlon.

Hanner poblogaeth Catalwnia oedd wedi pleidleisio yn y refferendwm.

‘Un cynnig olaf’

Dywedodd Santi Vilà: “Rhaid i ni roi un cynnig arni, efallai’r cynnig olaf, ac efallai mai’r unig ffordd all hynny ddigwydd yw drwy ddechrau gyda chadoediad.

“Gallwn ni oll bwyllo a rhoi cyfle i ni’n hunain i beidio â gwneud penderfyniadau a gweld pa lwybrau y gallwn ni eu hagor i ddechrau sgwrs heddychlon.”

Y diweddaraf

Daw’r alwad gan Santi Vilà ar ôl i rai o fusnesau a banciau pwysicaf Catalwnia gyhoeddi eu bod nhw’n symud eu pencadlys er mwyn sicrhau na fyddai annibyniaeth yn eu tynnu nhw allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Ac mae ymgyrchwyr o blaid aros yn rhan o Sbaen wedi bod yn ymgasglu ym Madrid.

Ond mae Santi Vilà wedi galw ar Lywodraeth Sbaen i roi grym ychwanegol i Lywodraeth Catalwnia tros feysydd gan gynnwys cyllid.

Roedd polau piniwn yng Nghatalwnia cyn y refferendwm yn awgrymu bod mater annibyniaeth wedi hollti barn ei thrigolion yn llwyr.

Roedd disgwyl i’r cam nesaf yn y broses gael ei thrafod ddydd Llun, cyn i Lywodraeth Sbaen ddatgan eu bod nhw wedi diarddel Senedd Catalwnia drwy’r llysoedd.

Mae disgwyl i Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont annerch y senedd ddydd Mawrth.