Mae pen newyddiadurwraig o Sweden aeth ar goll yn dilyn taith mewn llong danfor wedi cael ei ddarganfod yn Nenmarc.

Yn ôl yr heddlu yn Copenhagen, cafodd darnau o gorff Kim Wall eu darganfod mewn bagiau plastig ddydd Gwener, ynghyd â chyllell a darnau o fetel.

Cafwyd hyd i weddill ei chorff yn noethlymun fis Awst.

Mae Peter Madsen, sy’n wynebu cyhuddiadau o’i lladd, wedi dweud iddi farw ar ôl cael ei tharo’n ddamweiniol gan ddarn trwm o’r llong danfor.

Ond yn ôl yr heddlu, roedd hi wedi cael ei thrywanu 15 o weithiau ac fe ddaethon nhw o hyd i gyfres o fideos ar gyfrifiadur Peter Madsen oedd yn dangos menywod yn cael eu harteithio, eu dienyddio a’u llofruddio.

Mae breichiau Kim Wall yn dal ar goll.

Mae Peter Madsen wedi gwadu cyhuddiad o ddynladdiad ac o gadw corff marw mewn modd anweddus.