Lluis Trapero, Pennaeth Heddlu Catalwnia sydd wedi ymddangos o flaen llys ym Madrid (Llun Generalitat de Catalunya)
Mae pedwar ffigwr amlwg yng Nghatalwnia wedi cael eu harestio tros honiadau o “gynllwynio brad” neu “wrthryfel” yn erbyn gwladwriaeth Sbaen.

Yn eu plith mae pennaeth Heddlu Catalwnia a phennaeth y Cynulliad Cenedlaethol yno – maen nhw’n cael eu cyhuddo o beidio â gwneud digon i atal protestiadau tros annibyniaeth.

Roedd tyrfa o ymgyrchwyr annibyniaeth y tu allan i’r llys wrth i dri o’r pedwar gyrraedd i wynebu’r cyhuddiadau.

‘Rhwystro’r heddlu’

Yn ôl awdurdodau Sbaen, roedd y protestiadau wedi rhwystro eu heddlu nhw rhag gweithredu i gipio bocsys pleidleisio ac arestio swyddogion oedd yn trefnu’r refferendwm annibyniaeth a gafodd ei gynnal ddydd Sul.

Dyma’r cam diweddara’ yn yr argyfwng rhwng llywodraethau Catalwnia a Sbaen ar ôl i fwyafrif mawr o’r rhai fu’n pleidleisio ddweud eu bod o blaid annibyniaeth.

Fe gafodd y problemau eu chwyddo wrth i Lywodraeth Sbaen ymateb yn ffyrnig i’r refferendwm, gyda bron 1,000 o bleidleiswyr yn cael eu hanafu wrth i heddlu’r wladwriaeth ymosod arnyn nhw.

Rhai heddlu’n ymddiheuro

Yn ôl un papur newydd yng Nghatalwnia heddiw, mae rhai swyddogion o heddlu Sbaen wedi ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd.

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd Llywodraeth Catalwnia yn cyhoeddi annibyniaeth y wlad, ar ôl i Uchel Lys Sbaen wahardd y cyfarfod nesa’ o senedd y Generalitat.

Mae Llywodraeth Sbaen ym Madrid hefyd wedi bygwth cymryd ei phwerau oddi ar y senedd yng Nghatalwnia.

Awduron yn condemnio

Parhau y mae’r condemnio am weithredoedd Llywodraeth Sbaen ac am ddiffyg ymateb gan yr Undeb Ewropeaidd a’i haelodau.

Mae’r corff awduron rhyngwladol, PEN, wedi cyhoeddi datganiad yn dweud bod y trais ddydd Sul yn “achos cywilydd” i Lywodraeth Sbaen.

Mae’r datganiad, sydd wedi ei anfon at holl aelodau PEN yng Nghymru, yn galw ar sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd i atgoffa Llywodraeth Sbaen o’i chyfrifoldebau o dan siarteri hawliau dynol.