Liam Cosgrave (Llun: Niall Carson/PA Wire)
Mae teyrngedau’n cael eu rhoi heddiw i gyn-Taoiseach Iwerddon ac arweinydd Fine Gael, Liam Cosgrave, a fu farw yn 97 oed.

Fe fu’n arwain Senedd Iwerddon rhwng 1973 to 1977, ond roedd yn rhan o’r llywodraeth a gyhoeddodd fod y wlad yn Weriniaeth yn 1949. Roedd hefyd yn ffigwr amlwg pan ymunodd Iwerddon â’r Cenhedloedd Unedig.

Roedd Liam Cosgrave yn un o gewri gwleidyddiaeth Iwerddon, meddai’r arlywydd presennol, Michael D Higgins, a “bob amser wedi ymroi i wasanaethu pobol ei wlad gyda’i holl egni, ei ddeallusrwydd a’i angerdd”.

Mae’r Taoiseach presennol, Leo Varadkar, hefyd wedi’i ddisgrifio fel “dyn a roddodd ei oes i wasaneth cyhoeddus” a bod y genedl gyfan yn ddiolchgar am iddo roi’r wlad yn gyntaf.