Mae rhai gwleidyddion blaenllaw o’r Undeb Ewropeaidd wedi ochri â Llywodraeth Sbaen, gan gondemnio awdurdodau Catalwnia am gynnal refferendwm dros annibyniaeth.

Wrth annerch y Senedd Ewropeaidd ddydd Mercher (Hydref 4), dywedodd dirprwy-Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Frans Timmermans, bod Catalwnia wedi “anwybyddu’r gyfraith”.

“Mae yna gonsensws bod Llywodraeth ranbarthol Catalwnia wedi dewis anwybyddu’r gyfraith,” meddai. “Nid yw parchu’r gyfraith yn opsiynol, mae’n hanfodol.”

Mynnodd arweinydd grŵp gwleidyddol mwyaf y senedd, Manfred Weber, nad oes modd i’r Undeb Ewropeaidd ymyrryd mewn “democratiaeth ryddfrydol go iawn fel Sbaen”.

Er hynny, gwnaeth ambell aelod o’r Senedd Ewropeaidd wrthwynebu’r safiad yma, a bu’n rhaid cael gwared â baner Catalwnia o’r cyfarfod llawn.

Gwnaeth arweinydd grŵp gwyrdd y Senedd ddweud bod “dim modd cyfiawnhau” trais heddlu Sbaen yn erbyn pleidleiswyr Catalanaidd yn ystod refferendwm ddydd Sul (Hydref 1).