Swyddogion arfog ger safle ar y Las Vegas Strip (Llun: AP Photo/John Locher)
Mae Marilou Danley, cariad Stephen Paddock oedd wedi saethu 59 o bobol yn farw yn Las Vegas, wedi cael ei holi gan yr heddlu sy’n ymchwilio i’r gyflafan.

Cafodd 527 o bobol eu hanafu ar ôl i Stephen Paddock saethu at dorf o bobol o’r gwesty lle’r oedd yn aros wrth i gyngerdd gael ei chynnal.

Roedd Marilou Danley, 62, allan o’r wlad yn y pryd, ond cafodd hi ei holi ar ôl dychwelyd i Los Angeles o’r Ffilipinas neithiwr. Roedd Stephen Paddock wedi trosglwyddo 100,000 o ddoleri iddi tra ei bod hi i ffwrdd.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n disgwyl iddi roi gwybodaeth allweddol iddyn nhw am y digwyddiad. Ond dydyn nhw ddim yn gwybod eto pam fod Stephen Paddock, 64, wedi cynnal yr ymosodiad.

Fe laddodd ei hun cyn i’r heddlu allu ei gyrraedd yn ei ystafell ar lawr rhif 32 y gwesty.

Mae teulu Marilou Danley yn credu ei fod e wedi anfon ei gariad i ffwrdd fel na fyddai’n ei atal rhag ymosod.

Fe allai profion gael eu cynnal ar gorff Stephen Paddock mewn ymgais i ddarganfod beth oedd wedi achosi iddo ladd cynifer o bobol. Er bod ei dad wedi’i alw’n “seicopath” ac wedi’i ddedfrydu i garchar am ddwyn o fanc yn y 1960au, doedd gan Stephen Paddock ddim record droseddol.

Mae o leiaf 45 o bobol yn dal yn yr ysbyty, a dau ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.