Mae tri gwyddonydd yn rhannu’r Wobr Nobel am Wyddoniaeth eleni.

Fe fydd Richard Henderson o Brifysgol Caergrawnt, Jacques Dubochet o Brifysgol Lausanne a Joachim Frank o Brifysgol Columbia yn Efrog Newydd yn rhannu’r wobr o naw miliwn kronor (£830,000).

Yn ôl y beirniaid, mae eu hymchwil i ddulliau o rewi biofolecylau yn arloesol ac fe allai arwain at ddarganfod prosesau nad ydyn nhw erioed wedi cael eu gweld o’r blaen.

Fe ddywedon nhw fod y gwaith yn hanfodol er mwyn deall sut mae cemeg bywyd yn gweithio, ac er mwyn datblygu cyffuriau newydd.