Roedd y dyn a saethodd 59 o bobol yn farw yn Las Vegas ddydd Sul (Hydref 1), wedi gosod camerâu yn y gwesty lle’r oedd yn aros.

Niweidiodd Stephen Paddock gannoedd o bobol pan daniodd ynnau o 32ain llawr Gwesty Mandalay Bay tuag at dorf oedd yn mwynhau cyngerdd awyr agored islaw.

Saethodd ei hun cyn i swyddogion heddlu gyrraedd ei ystafell. Mae awdurdodau yn amau mai nod y camerâu oedd cadw llygad ar bobol ddaeth ar ei ol.

Roedd y saethwr 64 oed yn gyfrifydd oedd wedi ymddeol, ac yn byw yn Mesquite, Nevada.

Roedd wedi mynd â 23 o ynnau i ystafell y gwesty, a daeth yr heddlu o hyd i 19 o ddrylliau eraill yn ei gartref – ynghyd a ffrwydron a miloedd o fwledi.

Mae’n debyg gwnaeth Stephen Paddock drosglwyddo £75,000 i fanc yn y Pilipinas ond ychydig o ddyddiau cyn yr ymosodiad.

Dyma’r achos gwaethaf o saethu yn hanes diweddar America ac mae’r heddlu’n parhau i geisio sefydlu beth oedd y cymhelliad tu ôl i’r ymosodiad.