Un o'r rhai gafodd eu hanafu yn ystod y refferendwm ddydd Sul
Bydd streic gyffredinol yn cael ei chynnal ledled Catalwnia heddiw i brotestio yn erbyn ymateb Llywodraeth Sbaen i refferendwm ar annibyniaeth ddydd Sul (Hydref 1).

Cafodd y streic ei chyhoeddi gan undebau llafur Catalwnia, a daw yn sgil ymateb llawdrwm yr heddlu Sbaenaidd i geisio rhwystro’r bleidlais dros annibyniaeth.

Roedd Llywodraeth Sbaen wedi datgan bod y refferendwm yn anghyfreithlon ond mi bleidleisiodd 2.2 miliwn o bobol er gwaethaf hynny.

Mae disgwyl y bydd ysgolion, trafnidiaeth gyhoeddus, prifysgolion a hyd yn oed clwb pêl-droed Barcelona, yn cau am y diwrnod.

Mae Catrin Herbert yn dysgu Saesneg ail iaith yn Barcelona, ac yn ansicr ynglŷn â faint o effaith fydd y streic yn ei chael, ond yn amau bydd delweddau o drais ddydd Sul yn ysgogi pobol i brotestio.

“Sôn am streiciau”

“Mae yna sôn am streiciau [heddiw] ledled Catalwnia mewn sawl maes. Y blaid adain chwith dros annibyniaeth [Esquerra Republicana de Catalunya] sy’n gwthio y streic yma,” meddai Catrin Herbert wrth golwg360.

“P’un ai fydd yn digwydd ai peidio, sai’n siŵr faint o effaith bydd yn cael. Maen nhw’n trio cael pobol o ardaloedd eraill o Sbaen sydd wedi cael eu siomi gan ymddygiad Llywodraeth [Sbaen] a’r Guardia Civil i ymuno hefyd.”

“Ond byddwn ni ddim yn gwybod tan [ddydd Mawrth] faint o beth fydd y streic yma, ond y mwya’ y mae’r lluniau yma [o drais] yn cael eu lledaenu, y mwya’ o gefnogaeth mae’n siŵr bydd o rywbeth fel yna.”