Mae o leiaf 50 o bobol wedi’u lladd a 200 o bobol wedi eu hanafu ar ol i ddyn arfog danio gwn at y dorf mewn gŵyl canu gwlad yn Las Vegas.

Cafodd yr heddlu eu galw i Westy a Chasino Mandalay Bay yn y Las Vegas Strip ar ôl adroddiadau bod dyn arfog wedi tanio gwn ger gwyl Route 91 Harvest Festival.

Mae’r heddlu’n dweud bod y dyn sy’n cael ei amau o danio’r gwn wedi cael ei saethu’n farw gan yr heddlu yng ngwesty Mandalay Bay. Dydyn nhw ddim yn credu bod unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r ymosodiad.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi mai Stephen Paddock, 64, o Nevada oedd y dyn gafodd ei saethu.

Mae’n debyg bod dau blismon, oedd ddim ar ddyletswydd ar y pryd, ymhlith y meirw.

Dyma’r ymosodiad gwaethaf o’i fath yn hanes diweddar yr Unol Daleithiau.

Cafodd rhan o’r Las Vegas Strip ei chau yn dilyn y digwyddiad ac mae rhai hediadau i faes awyr rhyngwladol McCarran wedi cael eu harallgyfeirio.

Yn ôl llygad dystion, roedd y canwr gwlad Jason Aldean yn perfformio tuag at ddiwedd y gyngerdd pan gafodd gwn ei danio.