Carles Puigdemont, arlywydd Catalwnia (llun: Wikipedia)
Mae 337 o bobl wedi cael eu hanafu, rhai yn ddifrifol, yn Barcelona wrth i’r heddlu ymosod ar brotestwyr yn y refferendwm annibyniaeth, yn ôl llefarydd ar ran llywodraeth Catalwnia.

Dywedodd Jordi Turull fod yr heddlu wedi bod yn tanio bwledi rwber gerllaw o leiaf un orsaf bleidleisio yn Barcelona.

Mae’n beio prif weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, a’r Gweinidog Cartref Juan Ignacio Zoido am y trais, gan ddweud mai cymhellion gwleidyddol oedd y tu ôl i weithredoedd yr heddlu, a’u bod yn mynd ati’n fwriadol i niweidio dinasyddion.

Roedd y plismyn wedi tanio’r bwledi rwber wrth geisio clirio protestwyr a oedd yn ceisio rhwystro ceir plismyn rhag gadael ar ôl i’r heddlu gipio blychau pleidleisio o’r orsaf.

Mae gweithredoedd yr heddlu wedi cael eu beirniadu’r llym gan arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont.

“Bydd creulondeb yr heddlu’n codi cywilydd ar wladwriaeth Sbaen am byth,” meddai wrth dyrfa o brotestwyr.

Roedd llywodraeth Sbaen wedi cyhoeddi ddoe y byddai’n amhosibl cynnal y refferendwm ar ôl i’r Gwarchodlu Sifil ddatgysylltu’r dechnoleg sy’n cysylltu gorsafoedd pleidleisio, cyfrif y pleidleisiau a phleidleisio ar-lein.